top of page
Field Hockey Stick_edited.jpg

Paul Whapham appointed as new CEO of Hockey Wales

Hockey Wales are delighted to announce the appointment of Paul Whapham as their new Chief Executive, who joins from the Ospreys.



Paul joins the National Governing Body for hockey in Wales as a highly experienced, successful, and well-regarded leader with over 20 years experience working in sport. He has been with the Ospreys for over eight years and their Corporate Brand Director for the last four. During this time, he has played a leading role in the formation of Ospreys in the Community, with it becoming one of the largest sports development charities in Wales and has seen the Ospreys become the second fastest growing social media platform in the United Rugby Championship.


Paul has also spent the last four years as an elected non-executive board member of the Welsh Sports Association. He was born in Swansea and studied at both Cardiff Metropolitan University and The University of Bristol.


“I am honoured to be appointed as CEO of Hockey Wales and being part of the Great Britain Hockey Board. It’s an exciting time for hockey, with a strong club structure, significant opportunities, and space for innovation across the whole of the Sport”, said Paul Whapham. ”I am looking forward to working closely with the staff, members of our hockey community and stakeholders, building on recent success and continuing to develop engaging experiences for all involved in Welsh hockey. I would also like to thank everyone at the Ospreys for all their support and wish them well for the future”.


Current CEO Ria Burrage-Male leaves Hockey Wales in March to spend time with her family and take some time travelling the world. During her time as CEO Ria has been instrumental in delivering numerous successes and has been accountable for overseeing dramatic performance improvements of both the Senior Men’s and Women’s teams, including the best ever performance for both teams in the Commonwealth Games and the Senior Men’s qualification for the FIH World Cup in India this January.


“We are truly thrilled to have Paul lead Hockey Wales,” said Hockey Wales Chair, Conrad Funnell. “His experience, capabilities & exceptional leadership shone throughout our recruitment process. I very much look forward to working with him along with board to evolve hockey in Wales. I would like to also thank Ria for the exceptional drive and the passion that she has brought to our sport, along with the great successes seen throughout her time as CEO. We wish her all the best for her future endeavours and look forward to having her pitchside in the very near future”.


Paul takes up his new role in March 2023. Kindly join us in welcoming our new CEO.

 

Penodi Paul Whapham yn Brif Swyddog Gweithredol newydd Hoci Cymru


Mae Hoci Cymru yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Paul Whapham fel eu Prif Weithredwr newydd, sy’n ymuno o’r Gweilch.


Mae Paul yn ymuno â’r Corff Rheoli Cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru fel arweinydd hynod brofiadol, llwyddiannus ac uchel ei barch gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y byd chwaraeon. Mae wedi bod gyda’r Gweilch ers dros wyth mlynedd ac yn Gyfarwyddwr Brand Corfforaethol am y pedair blynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn ffurfio Gweilch yn y Gymuned, sydd wedi dod yn un o’r elusennau datblygu chwaraeon mwyaf yng Nghymru ac mae wedi gweld y Gweilch yn dod yr ail blatfform cyfryngau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.


Mae Paul hefyd wedi treulio’r pedair blynedd diwethaf fel aelod etholedig anweithredol o fwrdd Cymdeithas Chwaraeon Cymru. Cafodd ei eni yn Abertawe ac astudiodd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bryste.


“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Brif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru a bod yn rhan o Fwrdd Hoci Prydain Fawr. Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer hoci, gyda strwythur clwb cadarn, cyfleoedd sylweddol, a lle i arloesi ar draws y Gamp gyfan”, meddai Paul Whapham. “Rydw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r staff, aelodau o’n cymuned hoci a rhanddeiliaid, gan adeiladu ar lwyddiant diweddar a pharhau i ddatblygu profiadau difyr i bawb sy’n ymwneud â hoci yng Nghymru. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i bawb yn y Gweilch am eu holl gefnogaeth a dymuno’n dda iddynt i’r dyfodol”.


Mae’r Prif Swyddog Gweithredol presennol, Ria Burrage-Male, yn gadael Hoci Cymru ym mis Mawrth i dreulio amser gyda’i theulu ac i gymryd peth amser i deithio’r byd. Yn ystod ei chyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol mae Ria wedi bod yn allweddol wrth gyflawni nifer o lwyddiannau ac mae wedi bod yn gyfrifol am oruchwylio gwelliannau perfformiad dramatig y timau Dynion a Merched Hŷn, gan gynnwys y perfformiad gorau erioed i’r ddau dîm yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Dynion Hŷn yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIH yn India fis Ionawr eleni.


“Rydyn ni wrth ein bodd bod Paul yn mynd i fod yn arwain Hoci Cymru,” meddai Cadeirydd Hoci Cymru, Conrad Funnell. “Roedd ei brofiad, ei alluoedd a’i arweinyddiaeth eithriadol yn disgleirio drwy gydol ein proses recriwtio. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef ynghyd â’r bwrdd i esblygu hoci yng Nghymru. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i Ria am yr egni eithriadol a’r angerdd y mae hi wedi’i gyflwyno i’n camp ni, ynghyd â’r llwyddiannau mawr a welwyd drwy gydol ei chyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol. Dymunwn y gorau iddi ar gyfer popeth y bydd yn ei wneud yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ei gweld ar ochr y cae yn y dyfodol agos”.


Mae Paul yn dechrau yn ei rôl newydd ym mis Mawrth 2023. Ymunwch â ni i groesawu ein Prif Swyddog Gweithredol newydd




855 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page