S4C i Ffrydio Pob Gêm o Bencampwriaeth Menywod EuroHockey II
- sydneydavies
- Jul 23
- 2 min read
Mewn cyhoeddiad cyffrous mae S4C wedi cadarnhau bydd pob gêm o Bencampwriaeth Menywod EuroHockey II yn cael eu ffrydio ar blatfformau’r Sianel, gyda’r gêm gyntaf ar ddydd Sul 27 Gorffennaf, gan roi llwyfan newydd i hoci menywod a chwaraeon Cymru.

Bydd y gemau, sydd wedi eu cynhyrchu ar gyfer S4C gan y cwmni cynhyrchu chwaraeon blaenllaw Sunset & Vine ar gael i’w gwylio’n fyw, am ddim ar S4C Clic, ac ar sianel YouTube S4C.
Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi cyfle i ddilynwyr ledled Cymru a thu hwnt ddilyn pob eiliad o’r cyffro wrth i Gymru gystadlu am le yn EuroHockey 2027, a rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Mae chwaraeon menywod ar frig y don yr haf hwn, ac mae tîm hoci menywod Cymru yn hwylio’n hyderus hefyd. Gyda charfan ifanc a chyffrous, sydd ag oedran cyfartaledd o ddim ond 23, mae’r tîm yn cael ei arwain gan y capten Beth Bingham, ac yn cynnwys Sarah Jones sydd â dwy fedal Olympaidd, ac aelodau o garfan gyfredol y DU, Millie Holme a Rebecca Daniel.
Meddai Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:
“Rydym yn hynod falch y bydd S4C – Cartref Chwaraeon Cymru – yn darlledu pob gêm o Bencampwriaeth Menywod EuroHockey II. Mae hwn yn gyfle gwych i wylwyr ddilyn rhai o’n chwaraewyr gorau wrth iddynt gystadlu ar lwyfan rhyngwladol yng Ngwlad Pwyl.
Ar ôl haf o berfformiadau eithriadol gan athletwyr benywaidd talentog, a hynny mewn ystod eang o chwaraeon, mae’n ysbrydoledig gweld y momentwm yn parhau. Mae arddangos talent o Gymru wrth galon S4C, ac rydym wrth ein bodd yn dod â’r twrnamaint cyffrous hwn i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.”
Wrth siarad cyn y bencampwriaeth, meddai Paul Whapham, Prif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C ac EuroHockey am eu cydweithrediad a’u ffydd yn y garfan hon. Mae eu cefnogaeth yn sicrhau bod y gemau hyn yn cael eu gweld gan y genedl. Mae’r tîm hwn yn cynrychioli’r gorau o chwaraeon Cymru; maen nhw’n benderfynol, yn dalentog, ac yn barod i adael eu marc yn y llyfrau hanes. Rydym yn annog y gymuned hoci a chefnogwyr chwaraeon ledled y wlad i wylio a chefnogi’r tîm.
Gyda llygaid y genedl yn troi fwyfwy at chwaraeon menywod, a momentwm yn cynyddu ar ôl haf o berfformiadau rhagorol mewn sawl maes, mae hon yn foment bwysig i hoci Cymru.”
Gwyliwch y cyfan yn fyw ar blatfformau S4C yn unig, o ddydd Sul ymlaen."
Gemau EuroHockey Cymru – pob gêm yn fyw ar blatfformau S4C:
Sul 27 Gorffennaf – 13:30
Cymru v Y Swistir
Llun 28 Gorffennaf – 15:15
Cymru v Y Weriniaeth Tsiec
Mercher 30 Gorffennaf – 11:15
Cymru v Wcráin
Gwener 1 Awst – TBC
Rownd gynderfynol / Gemau Safleoli (Classification Matches)
Sadwrn 2 Awst – TBC
Rownd derfynol / Gemau Penodi (Placement Matches)