top of page
Field Hockey Stick_edited.jpg
Search

Hockey Wales U18 Girls Erasmus Tour 2022


Written by Emily S.


O Orffennaf 16eg i Orffennaf 27ain, cafodd y merched Dan18 NAGS y profiad anhygoel o deithio’r Iseldiroedd, ar daith wedi ei ariannu gan Erasmus. Roedd ymarfer a chwarae yn erbyn rhai o glybiau gorau’r wlad yn gyfle i ni ddatblygu ein sgiliau hoci ac i esblygu fel tîm ac fel unigolion. Roedd hefyd yn gyfle i brofi diwylliant hyfryd y wlad.


Gemau

Roedd pob gêm yn gyfle i ni ddatblygu ein sgiliau a dealltwriaeth hoci, yn ogystal âg adeiladu ein hyder a’n gallu i ffynnu mewn amgylchedd newydd. Ar ddechrau’r daith fe osododd pob chwaraewr targed i’w hunan am agweddau corfforol, technegol, tactegol, neu seicolegol eu perfformiad. Gyda chymorth ein hyfforddwyr, ein gilydd, a’r sialens yr oedd y chwaraewyr Iseldiraidd yn ei gynnig, mae pob chwaraewr wedi gwneud cynnydd sylweddol.


Gêm 1 vs HCEL

1-3 loss

Goals: Steph S

Player of the Match (POM): Amy C


Roedd yn anffodus i ddim ennill y gêm yma, oherwydd ni oedd â’r meddiant rhan fwyaf o’r amser, ond nad oedden ni’n ddigon clinigol yn eu D. Fodd bynnag, roedd hyn yn gêm gyntaf gwych fel carfan newydd. Roedden ni’n hapus iawn i orffen y gêm gyda thargedau am weddill ein gemau, ac roedden ni’n falch o’n hymdrech gan ystyried ein dechreuad cynnar a’n teithio sylweddol. Ar ôl ein dibriff ac ymestyn, gwyliom ni gêm y bechgyn o dan yr haul yn machlud, gan fwynhau pitsa wedi’i ddarparu gan y clwb.


Gêm 2 vs Geel-Zwart

3-2 win

Goals: Rosie J (x2), Jazz E

POM: Jazz E, Esme S


I lwyddo ar ôl colled y diwrnod cyn, ac i berfformio i safon mor uchel yn ein hail gêm yn unig fel carfan… roedd hyn yn arbennig! Roedd ein gwrthwynebwyr yn gryf iawn, ond fe wnaethom ni uno fel tîm a chwarae hoci gwych. Gorffennom ni’r gêm yn teimlo’n bositif a balch iawn, ac yn gyffrous i barhau i ddatblygu fel carfan.


Gêm 3 vs MOP Hockey Club

0-2 loss

POM: Orla O


Gêm anodd oedd hyn, mewn gwres yn agos i 40°C; roedd ein bwced llawn ia a thyweli oer yn hanfodol! Roedd ein gwrthwynebwyr yn gryf iawn, yn amharu ar ein gêm yn llwyddiannus iawn. Roedd hyn yn gyfle gwych i ni ddysgu fel carfan, nid yn unig i chwarae yn erbyn tîm gwych gyda rhai chwaraewyr rhyngwladol, ond i adeiladu gwydnwch seicolegol. Gwers werthfawr arall oedd i wastad cario chwistrell lladd pryfed, gan mai dyma’r noson cafodd llawer ohonom ni ein bwyta’n fyw gan bryfed yn yr haul cryf!


Gêm 4 vs Oosterbeek

4-4 Draw

Goals: Seren CP (x2), Emily P, Jazz E


Roedden ni’n benderfynol o ymateb i’n colled flaenorol: fe wnaethon ni ymladd yn gryf yn erbyn tîm cyferbyniol arbennig arall. Trwy gyfrwng goliau tîm gwych a dyfalbarhad roeddwn ni wastad yn y gêm, yn bennu lan gyda sgôr cyfartal. Roedd ein hesblygiad fel tîm yn amlwg ac roedden ni’n edrych ymlaen i'r gêm Wcráin, gyda llawer i’w hasesu ac adlewyrchu arno. Unwaith eto roedd yn hyfryd i gymdeithasu gyda’n gwrthwynebwyr ar ôl y gêm, gyda phawb yn gwylio gêm y bechgyn o dan fachlud haul, gyda chyri wedi’i ddarparu’n hael gan y clwb.


Gêm 5 v Ukraine u21s

0-3 Loss

POM: Caitlin W


Profiad anhygoel oedd chwarae yn erbyn y garfan Dan21 profiadol yma. Gêm hafal a chyffrous ni chafodd ei hadlewyrchu yn y sgôr terfynol yn anffodus. Brwydron ni tan y diwedd ond unwaith eto nad oedden ni’n ddigon clinigol pan oedd cyfleoedd gennym ni. Yn ein dibriff cynigodd pawb syniadau ar sut wnaethon ni uno fel carfan, gan orffen y dydd gyda chystadleuaeth llawsefyll hyfforddwyr yn erbyn chwaraewyr!



Ymarfer

Cawsom ni 3 sesiwn ymarfer 2 awr o hyd yn ystod y daith, lle wnaethom ni weithio ar sawl agwedd roedden ni’n teimlo yr oedd angen gwella erbyn y gêm nesaf. Roedd hyn yn cynnwys sgorio, bod yn glinigol yn y D, a strategaethau. Ar Ddydd Iau’r 21ain a hefyd Dydd Sadwrn y 23ain ar ôl ein sesiynau ymarfer yn SV Kampong HC, roedd y tîm dynion Iseldiraidd cenedlaethol yn chwarae gemau ymarfer yn erbyn Awstralia. Roedd yn brofiad gwych i wylio’r timoedd dominyddol yma’n chwarae. Roedden ni hefyd yn lwcus iawn i gael y cyfle i gwrdd â sawl chwaraewr ar ôl y gêm ac i ofyn cwestiynau iddynt. Roedd nifer o’r merched ychydig yn “starstruck”, yn cymryd lluniau gyda phob un ohonynt! Am ein sesiwn ymarfer olaf penderfynom gynnal twrnament 8 bob ochr cymysg gyda’r bechgyn. Roedd y sesiwn yma’n llawn chwerthin a hwyl, ac roedd yn gyfle arall i’r ddwy garfan ddod i nabod ei gilydd yn well.


Teithio

Credodd pawb byddai’r 18 awr ar y bws yn brofiad hir a blinedig, yn enwedig gan iddo ddechrau yn Sophia Gardens, Caerdydd am 3:30y.b.! Ond, er syndod i bawb, naeth y daith i’r Iseldiroedd hedfan. Cafodd hyn ei helpu gan y ffaith naeth pawb cwympo nôl i gysgu yn fuan ar ôl gadael Caerdydd. Oherwydd y traffig yn Dover roedden ni’n brin am amser cyn ein gêm gyntaf, ond fe wnaethon ni gyrraedd heb unrhyw broblemau sylweddol, er gwaethaf sawl pâr o goesau anystwyth! Aeth ein taith adref hyd yn oed yn fwy cyflym, gyda DJ Rosie J ar y llefarydd, digon o chwerthin a llawer o gysgu. Rydym ni’n hynod o ddiolchgar i’n gyrrwr Dave, a oedd yn rhan hanfodol o’r holl daith.



Cymdeithasu

poblogaidd iawn o ymlacio oedd pwll a sawna’r gwesty; roedd ond tua 3 diwrnod o’r daith cyfan lle naethon ni ddim nofio! Chwaraeom ni sawl gêm yn y dŵr, yn cynnwys pêl foli a “hot potato”, roedd y chwerthin yn ddi-dor. Dydd Iau’r 21ain oedd pen-blwydd Sion (capten tîm y bechgyn), felly fe aethon ni gyd i dref Utrecht am swper. Roedd yn wych i gael amser i ymlacio mewn grwpiau bach ag i gael bwyd blasus.


Tuag at ddiwedd y daith, ar y 22ain, cynhaliom ni noson karaoke a chwis yn stafell cyfarfod y gwesty. Roedd yn amlwg ein bod ni’n fabolgampwyr ac nid cantorion neu ddawnswyr! Y bechgyn naeth ennill y gystadleuaeth karaoke, ond roedden ni’n sicr nad oedd sgorio’r beirniaid (yr hyfforddwyr) yn hollol ddibynadwy, felly mae angen “re-match” yn y dyfodol! Dangosodd y cwis hefyd bod rhai ohonom ni angen gwella ein gwybodaeth gyffredinol. Y noson yma oedd un o ffefrynnau pawb o’r daith gyfan.


Y diwrnod wedyn, ar y 23ain, aethom ni i fowlio yn Utrecht. Roedd hyn yn llawer o hwyl, gyda sgiliau bowlio gwael pawb yn ffynhonnell llawer o chwerthin. Ar ein noson olaf ar y 26ain, fe joiodd y merched ychydig fwy o karaoke a dawnsio, cyn mynd i’r stafell cyfarfod ar gyfer y noson wobrwyo. Fe wnaeth yr hyfforddwyr greu gwobrau ar ein cyfer - rhai’n fwy gwirion nag eraill: Chwaraewr y chwaraewyr - Amy C Canwr gorau - Clare T Trio bod yn WAG - Freya D Personoliaeth fwyaf gwallgof - Connie D Fwyaf blasus i bryfed - Emily S Dathliadau gorau - Mia H Chwaraewr fwyf dramatig - Seren CP

Gorffennom ni’r noson gan archebu pitsa ac, wrth gwrs, sesiwn nofio yn y pwll.


Diwylliant

Naethom ni ymweld â 5 prif ranbarth yn yr Iseldiroedd, gan ddechrau yn Arnhem a’r Amgueddfa Airborne ar y 19eg. Roedd yn ddiddorol iawn i ddysgu am frwydrau Arnhem yn yr Ail Ryfel Byd trwy arteffactau, fideos, recordiadau, ac efelychiad cyrch awyr. Ar ôl yr amgueddfa aethom ni i archwilio tref Arnhem, ond roedd y tywydd 40°C yn ormod i ni, felly aethom ni i’r sinema agosaf i weld y ffilm Elvis. Daeth y penderfyniad ar hap yma yn jôc boblogaidd rhyngom ni, gyda llawer ohonom ni’n joio dynwared dawnsio Elvis o hynny ymlaen - yn enwedig Mia H!


Amgueddfa Philips yn Eindhoven oedd ar yr amserlen am y diwrnod nesaf, lle roedd llawer o weithgareddau rhyngweithiol am hanes y cwmni technoleg Philips. Ar y 22ain fe aethom ni i Utrech. Yn ogystal â siopa a thrio llawer o fwyd blasus, roedden ni’n lwcus iawn i gael taith cwch ar hyd camlesi’r ddinas. Roedd y bws a’r tram hefyd yn ffordd wych i weld Utrech yn ei gyfanrwydd. Utrech oedd un o’r llefydd fwyaf cyffrous fe wnaethom ni ymweld ag o ganlyniad i’r amrywiaeth o bethau i wneud. Yr Hague, fodd bynnag, oedd y fwyaf prydferth. Ar Ddydd Sul y 24ain fe grwydrom ni o amgylch y ddinas, gan gymryd llawer o luniau ar ein ffordd i’r traeth. Roedd yn ddiwrnod gwych i fod gyda’n gilydd ac i chwarae cymaint o gemau ar y traeth, gyda’r haul yn tywynnu a cherddoriaeth yn chwarae. Mae’n anodd cael profiad gwell na hynny!


Yn olaf, fe ymwelon ni ag Amsterdam. Treuliom ni’r dydd ar y 26ain yn cerdded o amgylch y ddinas a thrio pethau newydd. Dechreuom ni yn Amgueddfa Rijks, lle roedd nifer o arteffactau mor hen â’r 1500au, cyn pori’r siopau a strydoedd Amsterdam. Blasom ni llawer o fwyd Iseldiraidd traddodiadol fel kroketten a stroopwafel, gyda rhai ohonom yn eu hoffi’n fwy nag eraill!


Pan oedden ni’n cymdeithasu gyda’r gwrthwynebwyr, archebu bwyd, neu siarad â’r trigolion lleol, naethon ni drio i ddysgu cymaint o Iseldireg a phosib, oherwydd rydym ni’n credu ei fod yn bwysig i gyfarch pobl yn eu mamiaith. Naethon ni ddysgu sawl ymadrodd newydd, gan gynnwys goegoedemorgen (bore da), fijne dag (joiwch y dydd), a dankuwel (diolch yn fawr).

Fel captain, hoffwn ddiolch ein hyfforddwyr am eu amser ac ymdrech, yn enwedig Hockey Wales ac Erasmus am y cyfle arbennig yma, mae hi’n un bythgofiadwy!

5 views0 comments

Comments


bottom of page